Neidio i'r prif gynnwy

Codi Pryderon

Cwynion yn y GIG

Awgrymiadau/Cwynion

Os oes gennych awgrymiadau i wella ein gwasanaethau, defnyddiwch y ‘Blwch Awgrymiadau’ yn y portsh, neu siaradwch â Rheolwr y Practis, Ms Lidia De Orte, a fydd yn falch o glywed oddi wrthych yn bersonol.

Os ydych yn anhapus ag unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, mae gan y Practis weithdrefn gŵynion yn rhan o system y GIG ar gyfer delio â chŵynion.  Siaradwch yn y lle cyntaf â Rheolwr y Practis, sef Ms Lidia De Orte, a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.  Mae Taflen Gŵynion y Practis, sy’n rhoi manylion am y weithdrefn, ar gael o’r dderbynfa.  Byddwn yn ymchwilio i’ch pryderon ac yn siarad â’r staff sy’n ymwneud â’ch gofal.  Ein nod fydd ceisio ymateb i chi cyn pen 30 diwrnod gwaith ar ôl i'ch pryder ddod i law.  Os na allwn ymateb i chi cyn pen yr amser hwnnw, cewch wybod pam, ynghyd â phryd i ddisgwyl cael ymateb.  Efallai y bydd rhai pryderon yn golygu bod angen rhagor o amser i ymchwilio iddynt.

Ein nod yw darparu gwasanaeth o'r safon uchaf posibl, ac rydym yn ceisio datrys problemau yn gyflym.

Os na fyddwch yn hapus gyda’n hymateb, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Rhif ffôn 03007900203

Cyfeiriad e-bost: ask@ombudsman.wales

www.ombwdsmon.cymru

Cyfeiriad 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

 

Share: