Cynhelir ymweliadau cartref yn ôl disgresiwn y meddyg. Os ydych yn rhy anhwylus i ddod i’r feddygfa, gofalwch gyflwyno cais cyn 10.00am. Cofiwch y gall meddyg weld pum claf yn y feddygfa am bob ymweliad cartref a bod modd i gleifion gael archwiliad mwy trylwyr yn y feddygfa. Os oes gwres neu frech ar y claf, ni fydd ymweliad â’r feddygfa yn gwneud niwed iddo nac yn peryglu eraill, ond rhowch wybod i’r derbynnydd ar ôl i chi gyrraedd. Bydd disgrifiad o’r symptomau o gymorth i ni bennu trefn ein galwadau, felly gallwch ddisgwyl cael eich holi. Mae staff y dderbynfa wedi’u hyfforddi’n benodol ar gyfer y dasg ac nid ydynt yn holi er mwyn holi! Mae’n bosibl y gofynnir am eich rhif ffôn oherwydd y cwbl fydd ei angen weithiau yw cael cyngor gan y meddyg.