Neidio i'r prif gynnwy

Dewis Doeth Cymru

Dewis Fferyllfa

Mae Fferyllwyr yn weithwyr iechyd proffesiynol tra chymwysedig sy’n gallu cynnig cyngor a thrin ystod o gyflyrau brys.

Trwy ddewis ymweld â’ch fferyllydd lleol i gael cyngor:

  • Ni fydd angen i chi drefnu apwyntiad.
  • Gallwch alw i mewn ar adeg sy’n gyfleus i chi.
  • Gallwch ofyn am gael ymgynghoriad gyda fferyllydd cymwysedig mewn man preifat yn y fferyllfa.

Mae llawer o fferyllfeydd yn agored ar y penwythnos, sy’n ddefnyddiol os byddwch yn dechrau teimlo’n anhwylus ar yr adegau hynny.

Os bydd eich meddyginiaeth bresgripsiwn yn dod i ben, gall fferyllfeydd roi cyflenwad argyfwng i chi heb i chi orfod gweld eich meddyg teulu.

Mae llawer o fferyllfeydd hefyd yn cynnig y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, sy’n caniatáu iddynt gynnig diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin, er enghraifft llau pen. Os byddwch wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth hwn, gall eich fferyllydd roi meddyginiaeth i chi am ddim. Bydd eich fferyllfa yn rhoi gwybod os bydd angen i chi weld meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall o hyd oherwydd eich cyflwr neu’r math o feddyginiaeth sydd ei angen.

Mae Dewis Doeth yn sicrhau y cewch y driniaeth sydd ei hangen arnoch yn yr amser byrraf posibl, gan leihau’r pwysau ar wasanaethau hanfodol y GIG.

GIG 111 Cymru

Gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud os byddwch chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod neu’n gofalu amdano yn teimlo’n anhwylus. Mae GIG 111 Cymru yn cynnig mynediad cyflym a hwylus i chi at gyngor a gofal iechyd – er enghraifft meddyg teulu, nyrs, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau – lle cewch eich gweld yn llawer cynt yn aml nag yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys sy’n cynnig triniaeth i gleifion â salwch neu anafiadau mawr yn unig.

 GIG 111 Cymru

choosewell-english.pdf (wales.nhs.uk)

Share: