Os bydd arnoch angen sylw meddygol ar frys rhwng 6.30pm ac 8am bob dydd, ac ar Wyliau Banc a phenwythnosau, darperir gofal gan y Gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i Oriau. Gellir cysylltu â nhw trwy ffonio 111.
Os oes gennych broblem feddygol na all aros nes bod y feddygfa’n agor fel arfer neu mewn argyfwng lle mae bywyd yn y fantol, megis gwaedu difrifol, llewyg, anymwybyddiaeth a phoenau difrifol yn y frest: FFONIWCH 999 AR UNWAITH
I gysylltu â meddyg y tu allan i oriau, ffoniwch 111 bob tro. Efallai y cewch gyngor gan nyrs hyfforddedig neu gallai meddyg ofyn i chi ddod i’w weld mewn meddygfa, ymweld â chi yn eich cartref, neu roi cyngor i chi.
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda sy’n gyfrifol am gomisiynu’r gwasanaeth hwn.
Caiff y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau gyrchu’r wybodaeth am gleifion a gedwir gan Feddygfa Emlyn gyda’ch caniatâd chi yn unig (gofynnir am eich cydsyniad bob tro y cysylltwch â’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau). Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Galw Iechyd Cymru