Ceisiwch gynllunio ymlaen llaw ac archebu cyn bod eich cyflenwad yn dod i ben.
Caniatewch 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer presgripsiwn a gesglir o’r feddygfa. Caniatewch ddiwrnod ychwanegol os byddwch yn ei gasglu o’r fferyllfa.
Dros y ffôn
Mae’r llinell ffôn presgripsiynau yn agored rhwng 11am a 12 canol dydd ar gyfer ymholiadau brys yn unig. Ni allwn dderbyn archebion presgripsiwn dros y ffôn bellach.
Galw Heibio
Rhowch eich slip presgripsiwn rheolaidd yn y bocs yn y dderbynfa ar ôl ticio’r eitemau y mae arnoch eu hangen a nodi eich dewis fferyllfa. Os nad oes slip gennych, bydd darn o bapur â’ch enw, eich dyddiad geni a’r manylion arno yn gwneud y tro. Bydd fferyllfeydd lleol hefyd yn archebu presgripsiynau ar eich rhan.
Trwy'r Post
Gallwch anfon eich presgripsiwn rheolaidd atom trwy’r post a gallwn ei anfon yn uniongyrchol i’r fferyllfa, neu ei anfon yn ôl atoch os byddwch wedi amgáu amlen hunangyfeiriedig â stamp arni.