Neidio i'r prif gynnwy

Adolygu Meddyginiaethau

EICH ADOLYGIAD MEDDYGINIAETHAU – BETH I’W DDISGWYL

Cyfarfod yw’r adolygiad meddyginiaethau gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i drafod eich meddyginiaeth ac unrhyw bryderon, problemau neu gwestiynau a allai fod gennych. Os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, dylech gael adolygiad meddyginiaethau bob blwyddyn, ond gallai hyn amrywio yn dibynnu ar y feddyginiaeth a gymerwch. Mae’n bwysig cael adolygiad meddyginiaethau er mwyn sicrhau y cewch y budd gorau o’r hyn a gymerwch.

Dylid cynnal pob adolygiad meddyginiaethau yn unol â Safonau Cenedlaethol cytunedig Cymru ar gyfer Adolygu Meddyginiaethau (Tabl 1).

 

Tabl 1. Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Adolygu Meddyginiaethau

Safon

Nod

1

Cynnwys y cleifion a’r gofalwyr

Dod i gytundeb gyda’r claf (neu’r gofalwr, neu’r ddau) ar nodau ac amcanion y driniaeth.

2

Diogelwch

Lleihau problemau cysylltiedig â meddyginiaeth.

3

Adolygu meddyginiaethau

Sicrhau’r budd mwyaf o’r meddyginiaethau.

4

Lleihau gwastraff

Ystyried gweithgareddau a gweithredoedd sy’n cyfrannu at wastraff a rhoi sylw iddynt.

5

Dogfennau’r adolygiad meddyginiaethau

Cwblhau’r dogfennau a diweddaru cofnod y claf.

 

Mae modd cynnal yr adolygiad meddyginiaethau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu dros y Rhyngrwyd.

Gallwch gael apwyntiad adolygiad meddyginiaethau gyda meddyg teulu, fferyllydd, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol cymwysedig arall. Gelwir nhw yn ‘adolygydd’ yn y daflen hon.

Efallai y byddwch am i berthynas neu gyfaill fod yn bresennol yn ystod yr adolygiad. Os felly, dywedwch hynny wrth yr adolygydd am hyn a dywedwch eich bod yn fodlon trafod eich meddyginiaethau a’ch cyflwr o’u blaen.

Gwybodaeth am eich adolygiad meddyginiaethau

  • Proses ar y cyd yw’r adolygiad meddyginiaethau, sy’n gyfrwng i’r adolygydd  eich helpu i wneud penderfyniadau am eich triniaeth.
  • Bydd yr adolygydd yn ystyried pob meddyginiaeth a gymerwch a’r hyn y mae’n ei drin. Bydd yn adolygu ac yn gwirio ei bod yn dal yn briodol i chi ei chymryd, os yw’r cyflwr arnoch o hyd, neu a oes rhywbeth wedi newid.
  • Yn ogystal, gall yr adolygydd ofyn am unrhyw ffactorau anfeddygol a all fod yn effeithio ar eich iechyd. Er enghraifft: smygu, alcohol, deiet, gweithgarwch corfforol, trafnidiaeth, bwyd, llygredd, amodau byw, tai, a chyflogaeth.
  • Gall adolygiad meddyginiaethau gymryd rhwng 10 a 45 munud.

Paratoi ar gyfer eich adolygiad meddyginiaethau

  • Bydd yr adolygydd am ddeall eich barn, eich dealltwriaeth a’ch disgwyliadau o ran eich meddyginiaethau.
  • Byddwch yn barod i roi gwybod i’r adolygydd am yr holl feddyginiaethau a gymerwch, gan gynnwys:
    • y rhai a brynwch o’r fferyllfa neu o’r archfarchnad;
    • y rhai a ragnodwyd gan yr ysbyty;
    • meddyginiaethau llysieuol; ac
    • unrhyw feddyginiaethau amgen eraill.

Os oes modd, dylech ddod â’r meddyginiaethau hyn gyda chi i’r adolygiad. Bydd yr adolygydd eisoes yn gwybod am y meddyginiaethau a ragnodwyd gan eich meddyg teulu.

  • Meddyliwch am y pryderon, y cwestiynau neu unrhyw broblemau sydd gennych cyn dod i’r adolygiad meddyginiaethau. Efallai yr hoffech wneud nodyn ohonynt i’ch helpu i’w cofio.

Yn ystod eich adolygiad meddyginiaethau  

Adolygu eich meddyginiaethau

  • Cewch eich holi am yr hyn sy’n bwysig i chi o ran eich iechyd a’r meddyginiaethau a gymerwch.
  • Gallai’r adolygydd ofyn a ydych yn gwybod pam y cawsoch bresgripsiwn am bob meddyginiaeth.
  • Bydd yr adolygydd yn ystyried a oes angen profion gwaed arnoch neu unrhyw ymchwiliadau eraill er mwyn monitro eich triniaeth neu eich cyflwr.
  • Efallai y bydd yn gofyn a hoffech gael gwybodaeth ychwanegol am unrhyw rai o’ch meddyginiaethau neu eich cyflyrau iechyd. Efallai y cewch wybodaeth ategol, megis: dolenni i dudalennau gwe sy’n cynnig cyngor ar y Rhyngrwyd, neu daflenni gwybodaeth i gleifion.

Cymryd eich meddyginiaethau

  • Efallai y bydd gofyn i chi esbonio sut yr ydych yn cymryd pob meddyginiaeth. Er enghraifft, sawl gwaith y dydd, ar ba adeg o’r dydd y cymerwch nhw, a ydych yn eu cymryd cyn neu ar ôl bwyd. Cofiwch sôn am unrhyw broblemau posibl a all fod gennych o ran cymryd eich meddyginiaeth.
  • Bydd yr adolygydd yn meddwl am ffyrdd o leihau unrhyw berygl o niwed sy’n gysylltiedig â’r meddyginiaethau a gymerwch. Os amlygir risg, bydd yr adolygydd yn ei thrafod gyda chi.
  • Gallai’r adolygydd ofyn a yw eich meddyginiaethau wedi achosi unrhyw effeithiau digroeso (sgil-effeithiau).

Newid eich meddyginiaeth

  • Bydd yr adolygydd yn ystyried i ba raddau y mae pob meddyginiaeth yn gweithio yn eich achos chi ac yn gwirio’r canllawiau diweddaraf ynghylch triniaethau.
  • Gallai’r adolygydd drafod a oes arnoch angen pob meddyginiaeth a gymerwch. Os yw’r adolygydd yn gweld eich bod yn cymryd meddyginiaethau diangen, bydd yn trafod eu hatal gyda chi.
  • Efallai y bydd yn gofyn a ydych wedi deall y rhesymau dros unrhyw newid ac a ydych yn cytuno â’r newidiadau. Dylech sôn wrth yr adolygydd os oes gennych unrhyw bryderon ac os ydych yn anfodlon ar y newidiadau.

Casglu a gwaredu meddyginiaethau

  • Efallai y gofynnir am unrhyw broblemau a gawsoch wrth archebu eich meddyginiaethau neu wrth gael eich presgripsiwn neu’ch meddyginiaethau o’r fferyllfa.
  • Efallai y gofynnir am unrhyw feddyginiaethau sydd gennych gartref nad oes eu hangen arnoch bellach. Os bydd rhai gennych, bydd yr adolygydd yn esbonio sut y dylech eu gwaredu mewn modd diogel.

Ar ôl eich adolygiad meddyginiaethau

  • Bydd yr adolygydd yn nodi’r adolygiad meddyginiaethau yn eich cofnod meddygol. Bydd yn cofnodi unrhyw newidiadau o ran y meddyginiaethau a gymerwch, er enghraifft, unrhyw feddyginiaethau newydd neu rai nad oes angen i chi eu cymryd bellach.
  • Cewch ofyn am gael gweld eich cofnodion meddygol neu gael copi ohonynt. Os dymunwch wneud hynny, gofynnwch i’r adolygydd am ragor o wybodaeth. 
  • Bydd yr adolygydd yn esbonio pryd y cynhelir eich adolygiad meddyginiaethau nesaf a sut y trefnir yr apwyntiad.
Share: