MEDDYGFA EMLYN ARCHWILIAD BLYNYDDOL O BRYDERON CLEIFION EBRILL 2023-MAWRTH 2024
Diben Darparu gwybodaeth am gynnydd a pherfformiad Meddygfa Emlyn wrth ddelio â phryderon.
Cefndir Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r modd y mae Meddygfa Emlyn wedi ymdrin â phryderon yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024.
Crynodeb gweithredol
1. Trosolwg o'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer ymdrin â phryderon Nod Meddygfa Emlyn yw darparu'r lefel uchaf o ofal i'n holl gleifion. Byddwn bob amser yn barod i wrando ar unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella lefel y gwasanaeth a ddarperir. Mae Meddygfa Emlyn yn glynu wrth weithdrefn gŵynion y GIG ac yn credu mewn 'ymchwilio unwaith ac ymchwilio'n dda'. Mae hyn yn sicrhau yr ymdrinnir â phryderon mewn modd priodol a bod unrhyw gamau gweithredu a nodir yn cael eu rhoi ar waith yn brydlon, a thrwy hynny y cynhelir gwasanaeth o ansawdd uchel i gleifion a bod staff yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth y mae arnynt ei angen. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf daeth 19 o bryderon i law (9 yn rhai ffurfiol a 10 yn anffurfiol), ac mae pob un ohonynt wedi cael eu datrys. Mae'r Practis yn gallu cael mynediad at gyngor arbenigol, cyngor cyfreithiol a gwasanaethau datrys anghydfodau ac eirioli amgen yn ôl yr angen.
2. Ystadegau yn ymwneud â phryderon 1 Mynegwyd dau bryder ynghylch mynediad 2 pryder yn ymwneud ag agwedd 4 pryder yn ymwneud â thriniaeth glinigol/asesu clinigol 0 pryder yn ymwneud â chyfrinachedd 5 pryder yn ymwneud â meddyginiaethau 0 pryder yn ymwneud â gwarchod rhag y coronafeirws 4 pryder yn ymwneud â chyfathrebu 0 pryder yn ymwneud a canlyniadau 3 pryder yn ymwneud a cadw cofnodion Daeth 18 o'r pryderon i law cyn pen un mis calendr yn dilyn y digwyddiad Daeth dim pryder i law cyn pen chwe mis yn dilyn y digwyddiad Ymdriniwyd ag 18 o'r pryderon o dan reoliad 24 (achosion nad ydynt yn cynnwys atebolrwydd) a chafodd pob un ymateb terfynol cyn pen 30 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i'r pryder ddod i law.
3. Themâu, tueddiadau a materion allweddol sy'n codi o'r pryderon Meddyginiaeth – Mae'n parhau i fod yn fater allweddol ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i berffeithio gweithdrefnau cyfredol. Gall cyflwyno rhagnodi electronig ddod yn ffactor pwysig yn y blynyddoedd i ddod. Mae gwella cyfathrebu â chleifion wedi'i nodi fel thema sy'n dod i'r amlwg a bydd y practis yn gweithio ar wella'r mater hwn.
Casgliad Mae'r meddygon teulu a'r staff yn croesawu'r cyfle i wella'r gwasanaethau ymhellach, yn unol â'r adnoddau sydd ar gael. Nid oes unrhyw flaenoriaethau penodol ar gyfer gwella yn disgwyl sylw. Fodd bynnag, mae'r meddygon teulu a'r staff ym Meddygfa Emlyn yn ymrwymedig i ddarparu'r gofal gorau posibl i bob claf ac yn croesawu adborth gan unrhyw un sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Dylid nodi hefyd fod cleifion wedi anfon 22 o gardiau/llythyrau ysgrifenedig i Feddygfa Emlyn yn ystod yr un cyfnod, yn diolch am y gofal a'r cymorth a gafwyd ganddynt. |