Cofrestru
Rydym yn croesawu cleifion newydd sy’n byw y tu mewn i ffiniau ein Practis. Byddwch yn gweld y derbynnydd yn gyntaf i gofrestru a gofynnir hefyd i chi lenwi holiadur byr ynghylch pob aelod o’r teulu. Os oes modd, dewch â’ch rhif GIG gyda chi ynghyd ag unrhyw bresgripsiynau rheolaidd a chopi o’ch cofnod imiwneiddio neu’r llyfr coch yn achos plant dan 5 oed.
Nid yw defnydd hirdymor o gyffuriau Hypnotig (tabledi cysgu) a chyffuriau lleihau gorbryder yn cael ei argymell. Mae Meddygfa Emlyn wedi ymrwymo i helpu cleifion i ddefnyddio llai o’r cyffuriau hyn trwy ddull rheoli priodol. Mae angen i gleifion newydd fod yn ymwybodol o hyn a derbyn y byddant, wrth ymuno â Meddygfa Emlyn, yn cydweithredu â’r meddygon i leihau eu defnydd o’r meddyginiaethau hyn.