Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a chymorth

Galw 111

Yr hyn a wnawn

Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o gyngor a gwybodaeth a dyma’r lle cyntaf y dylech edrych arno cyn ffonio, gan gynnwys y rhestr o wasanaethau yn agos atoch chi, a https://111.wales.nhs.uk/SelfAssessments/default.aspx  

gwiriwch eich symptomau.

Mae gwasanaeth ffôn 111(1) ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gallwch ei ddefnyddio i gael cyngor iechyd brys ynghylch y gwasanaethau y dylech gysylltu â nhw neu ffyrdd o reoli salwch neu gyflwr, ac i gael mynediad brys at ofal sylfaenol y tu allan i oriau (os bydd y gwasanaeth hwnnw ar gael yn eich ardal chi).

Ni all gwasanaeth 111 drefnu profion COVID-19 na brechiadau na rhoi cyngor ynghylch hunanynysu (rhaid galw gwasanaeth 119 yn yr achos hwnnw). Hefyd, ni allwn ddarparu cyngor ynghylch cofrestru gyda meddyg teulu neu bractis deintyddol, neu bresgripsiynau neu apwyntiadau meddyg teulu yn ystod yr wythnos waith.

Caiff eich galwad ei hateb yn gyflymach os gallwch alw ar adegau tawelach o’r dydd, sef

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener cyn 5pm ac ar ôl 9pm
  • Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul cyn 9am ac ar ôl 3pm

 

Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Caerfyrddin     Rhif ffôn:   01267 235151

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth                        Rhif ffôn:    01970 623131

Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd                 Rhif ffôn:   01437 764545

Canolfan Integredig Aberteifi (Mân Anafiadau a gofal brys yr un diwrnod)                              Rhif ffôn: 01239 801560

 

Age UK/Cymru/Concern

Rhifau ffôn defnyddiol ar gyfer cymorth a chyngor i gleifion dros 50 oed

Cyngor Age UK - 0800 169 6565

Age Cymru Canolog (Caerdydd) - 02920 431555

Age Cymru Sir Gâr (Sir Gaerfyrddin) - 01554 784080

Age Cymru Ceredigion - 01970 615151

Age Concern Sir Benfro - 01437 769972

 

Grŵp Cyfranogiad Cleifion

Mae’r grŵp Cyfranogiad Cleifion yn cynnwys cleifion, Rheolwr y Practis a Meddyg Teulu.  Mae’n cyfarfod yn rheolaidd (bob 3 neu 4 mis) i drafod materion cyffredinol yn ymwneud â chleifion ac i weithredu fel cyfrwng i wella’r gwasanaeth a ddarperir.

Os oes gennych chi fater cyffredinol yr hoffech i ni ei drafod, neu os hoffech ymuno â’r grŵp, cysylltwch â’r canlynol

Mr Dirk den Hartog, cynrychiolydd y cleifion  cyfeiriad e-bost Dirk den Hartog

Ms Lidia De Orte, Rheolwr y Practis – rhif ffôn 01239 710479

 

Gwasanaethau Cymorth i Gleifion:

Rhif ffôn: 0300 0200 159

Cyfeiriad e-bost: hdhb.pateintssupportservices@wales.nhs.uk

Gwefan: www.hduhb.nhs.wales

Rhadbost Adborth @Hywel Dda

Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg

Heol Abergwaun

Hwlffordd

SA61 2PZ


 
Share: